A Home For My Heart (12A) + Q&A
Cyfarwyddwr: Sankhajit Biswas
Gyda: Suvana Sudeb
India, 2022, 61 munud, Bengali, Hindi, Saesneg gydag is-deitlau.
Portread sensitif o daith menyw drawsryweddol wrth iddi ymdrechu i normaleiddio hylifedd rhywedd. A hithau’n unigolyn rhamantus, sy’n dwlu bod mewn cariad, mae Sudeb yn poeni am y gofid mae hi’n achosi i’w theulu ceidwadol. Mae eiliadau personol a sgyrsiau didwyll yn datgelu ei bregusrwydd a'i chryfder wrth iddi fynd trwy lawdriniaeth cadarnhau rhywedd. Ond pan mae hi'n torri'n rhydd o gyfyngiadau rhywedd ac yn ymroi i amddiffyn hawliau cymunedau trawsrywiol India, mae ei hysbryd anorchfygol yn disgleirio.
Wedi’i churadu mewn partneriaeth â Dhaka DocLab gyda chyllid gan Grantiau Cydweithio Rhyngwladol y British Council.
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, dydd Sul 26 Mawrth 2.30pm
Y ffilm fer, Drychau, yn sgrinio cyn y ffilm.
Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb dan gadeiryddiaeth Aberration ar ôl y ffilm.
Ar-lein
Gwylio Trelar