

2021
Mae'r straeon dyfrllyd hyn o'r Amazon, Libanus, Gwlad yr Iâ a Chymru yn rhoi cyfle i oedi a myfyrio ar elfen sy'n hanfodol i bob math o fywyd ar y Ddaear. Ac efallai, i ailfeddwl am ein perthnasoedd â'r afonydd a'r moroedd sy'n ein cynnal ni i gyd.

WOW 2022
Cynhelir y Gŵyl Ffilm WOW nesaf yn y sinema ac ar-lein ym mis Mawrth 2022

WOW 2021
Cynhaliwyd Gŵyl Ffilm WOW 2021 ar-lein. Gan gyrraedd hen ffrindiau a rhai newydd, rhoddodd yr ŵyl gyfle i wylwyr ffilm gysylltu â gwneuthurwyr ffilm a'i gilydd trwy raglen ar-lein o siarad a thrafod. Cydweithiodd WOW â gwyliau eraill, gan gynnwys Gwobr Iris, Abertoir a Kotatsu, a ffurfiodd bartneriaeth â sefydliadau fel Maint Cymru a Survival International. Gwyliwch hysbyslun WOW 2021 yma:

RHAGLENNI’R GORFFENNOL
Mae Gŵyl Ffilm WOW Cymru a’r Byd yn Un wedi bod yn cael ei chynnal am yr 20 mlynedd diwethaf. Mae wedi bod ac mae’n parhau i fod yn ŵyl ffilm syfrdanol, sy’n rhannu naratifau a syniadau unigryw o bob cwr o'r byd. Ewch ati i archwilio ein rhaglenni diweddaraf o'r gorffennol i ddarganfod yr holl ffilmiau a straeon y gwnaethon ni eu rhannu ar hyd y blynyddoedd.
2020
2018
2017
2019
2016
2015
