
GŴYL FFILM WOW
BYRION 2024

Dear Heartbreak
Ffion Pritchard, Y Deyrnas Unedig, 2023, 9'13''
Stori serch a gwytnwch Ellie'r pyped.

Cycle Path
Red Wade, Y Deyrnas Unedig, 2023, 3’
Mae e-bost gwarthus gan reolwr nad yw’n eco-gyfeillgar yn gwneud i feiciwr sy'n effro i’r hinsawdd eisiau mynd ati i weithredu.

The Planting Of A Seed
Joseff Morgan, Y Deyrnas Unedig, 2023, 15’
Mae grŵp cymunedol penderfynol yn Ne Cymru yn archwilio ffyrdd arloesol o ymateb ar y cyd i fygythiad newid hinsawdd.

Cariad Brawdol
Rhys Prichard, Y Deyrnas Unedig, 2023, 12’
Mae dau frawd yn mynd ati i dreulio eu diwrnod olaf yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, gan dreiddio i safbwyntiau gwahanol ar groesffordd bywyd

The Theory Of Tomorrow
Siôn Eifion, Y Deyrnas Unedig, 2023, 11’13’’
Ac yntau wedi'i ddatgomisiynu a'i ddifrïo, ni fydd unrhyw beth yn stopio gwyddonydd obsesiynol rhag gorffen ei arbrawf.

Penguin
Lily Lawson-Broadhead, Y Deyrnas Unedig, 2023, 15’
Ac yntau’n cael ei annog gan ei gyd-letywr, mae Teddy'n mentro i'r byd dêtio ar-lein. A fydd yn ei ddewis dros gyfeillgarwch?

The Museum Of Modern Trash
Isabella Rose Bown, Y Deyrnas Unedig, 2022, 7’58’’
Mae person encilgar sy'n byw yn yr anialwch yn chwilfrydig ynghylch dyfodiad arddangosfa gelf ryfedd.