GŴYL FFILM WOW
ABERCON 2024
Dydd Sadwrn 23 Mawrth, 10am-5pm
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Bydd unrhyw un sy’n hoff o animeiddiadau - neu sydd ychydig yn ‘geeky’ yn gyffredinol - wrth eu bodd gydag Abercon, ein confensiwn anime hygyrch yng ngorllewin Cymru. Ymunwch â ni am ddiwrnod llawn hwyl i'r teulu cyfan yn llawn anime, gweithdai creadigol, gemau a stondinau. Thema Abercon eleni yw ‘cymuned’. Byddwn yn gwneud animeiddiad cymunedol gyda'n gilydd ar y diwrnod, dewch i ymuno. Peidiwch ag anghofio gwisgo i fyny a chymryd rhan yn y gystadleuaeth cosplay!
Mewn partneriaeth â Mencap Ceredigion, wedi’i ariannu gan CAVO a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
STONDINAU, GEMAU A GWEITHDAI ANIMEIDDIO GALW HEIBIO
Trefnir gan WOW gyda Chlwb Animeiddio Gorllewin Cymru. Ariennir gan Gronfa Cymunedau'r Loteri Genedlaethol a CAVO.
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth: Yng nghyntedd y theatr (i fyny'r grisiau)
Sad 23/03, 10:00am-5:00pm
CYHOEDDI ENILLWYR Y COSPLAY
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth: Bar cyntedd y theatr
Sad 23/03, 4:45pm
SET DJ TEYRNGED ANIME “NOW STANDING
Perfformiad DJ dyrchafol, rhyngweithiol. Mae'r artist Theo Delahaye yn samplu anime poblogaidd a cherddoriaeth fyd-eang i ddathlu harddwch anime. Gwrandewch, gwyliwch, a mwynhewch!
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth:
Sad 23/03, 12:00pm
(yn y sinema)
THE BOY AND THE HERON
(SGRINIO HYGYRCH)
Hayao Miyazaki, Japan, 2023, 124 munud
Dangosiad hygyrch - cast o leisiau Seisnig gydag isdeitlau Saesneg
Mae taith ryfeddol Studio Ghibli am fachgen ifanc sy’n dilyn crëyr sy’n siarad i fyd hudolus yn gampwaith arall gan Miyazaki. Enwebwyd am Oscar.
+ FFILM FER
‘THE STOLEN KINGDOMS ’
(PG) Matthew Lee, Cymru, 2023,
5 munud
Cipolwg ymlaen llaw ar gyfres fer sy’n dilyn Siriol, merch ifanc fud, a draig fach wrth iddyn nhw deithio ar draws y wlad i helpu bywyd gwyllt.
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth:
Sad 23/03, 2:00pm
(yn y sinema)