top of page
banner.png

GŴYL  FFILM WOW
BYRION 2024

Straeon Hinsawdd Bangladesh / Cymru

Dwy ffilm fer yn archwilio profiadau cymunedau glan yr afon yn erbyn cefndir o chwalfa hinsawdd ym Mangladesh. Comisiynwyd gan WOW Film Festival a Dhaka DocLab fel rhan o brosiect Straeon Hinsawdd Bangladesh Cymru a ariennir gan Gronfa Cydweithredu Rhyngwladol y Cyngor Prydeinig.

Latika- stills photo.jpg

Latika

Samsul Islam Shopon, Bangladesh, 2023, 30 munud

 

Lleolir Latika mewn pentref anghysbell ar lan yr afon Chitra, Bangladesh, lle roedd teuluoedd yn draddodiadol yn gwneud bywoliaeth trwy bysgota gyda chymorth dyfrgwn anwes. Mae newidiadau yn yr hinsawdd a llanw economaidd yn rhoi pwysau aruthrol ar y berthynas ddynol-dyfrgwn hen iawn hon.

Duprajhiri (2).JPG

Doprujhiri

Asma Beethe, Bangladesh, 2023, 29 munud

 

Mae Doprujhiri yn ffilm arsylwadol am gymuned frodorol Mru sy’n byw yn ardal bryniau Bangladesh sy’n wynebu heriau digynsail gan fod eu ‘jhiri’ (cilfach/nant) yn colli ei llif oherwydd ymyrraeth allanol.

bottom of page