top of page

CLWB FFILMIAU MERCHED WOW

Mae'r sinema yn bwerus, mae menywod yn anhygoel. Dewch â nhw at ei gilydd a gall pethau rhyfeddol ddigwydd. Mae Clwb Ffilm Menywod WOW yn ofod i bob merch o bob cefndir gwrdd, ymlacio a dod i adnabod ei gilydd yn well.

Dros yr 17 mlynedd diwethaf mae Clwb Ffilm Menywod WOW wedi creu lle i bob merch o bob cefndir gwrdd, ymlacio a dod i adnabod ei gilydd yn well.

 

Yn anffodus daeth y pandemig i’n rhwystro ni, felly rydym yn edrych ymlaen at adfywio'r gofod arbennig iawn hwn cyn gynted ag y bydd yn ddiogel dod â menywod a'u teuluoedd ynghyd eto. Mae rhaglen Clwb Ffilm y Merched a gynlluniwyd gennym ar gyfer 2022 yn cynnwys:

Gweithio mewn partneriaeth â Grŵp Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Merched Abertawe  Amgueddfa Genedlaethol y Glannau fel rhan o raglen sydd ynghlwm â phrosiect The Red Dress gan yr artist Kirstie Macleod, sy'n rhoi llwyfan i ferched o bob cwr o'r byd i adrodd eu straeon personol trwy frodwaith.

Trwy weithio gyda chwaraeon a llawr gwlad, yn ogystal â sefydliadau merched amrywiol rydym am ennyn diddordeb menywod wrth wylio rhaglen ddogfen o Fangladesh sef Bangla Surf Girls, sy’n cynnwys themâu grymuso merched drwy syrffio, ar-lein ac yn y sinema.

Yn ddiweddar buom yn gweithio fel partner â Dhaka DocLab ar gynnig i'r British Council a’n arweiniodd at gomisiynu ffilmiau cydweithredol i’w cyfnewid rhwng Cymru a Bangladesh ar thema rolau menywod mewn adeiladu gwytnwch tuag at newid yn yr hinsawdd.

Bydd mwy o newyddion maes o law.

Bollywood Brass Band.jpg
Women's Film Club Newport.jpg
WOW-Womens-Film-Club.jpg
womens film club eagle huntress.jpg
bottom of page