Cholitas (PG)
Cyf: Jaime Murciego, Pablo Iraburu
2020 Sbaen Siapan Bolivia Chile 1awr 22mnd
Sbaeneg ac Aymaric gydag isdeitlau Saesneg
​
Yn y stori hynod ddiddan hon, mae pum menyw frodorol o Folivia’n dringo pegwn uchaf De America, wedi’u sbarduno gan ymdeimlad amlwg o undod chwaerol, hiwmor enfawr, a’u credoau brodorol dwfn. Mae Dora, Lidia, Cecilia, Elena, a Liita bob un yn fenywod dewr sy’n torri allan o’u rolau traddodiadol i ddilyn eu hangerdd am y mynyddoedd, ble maen nhw’n teimlo’n rhydd, yn hapus ac yn fyw. Mae’n bleser cael treulio amser yn eu cwmni.
​
‘Highlights an impeccable technical finish that privileges the aerial and terrestrial in each frame.’ Rodrigo Portales, Cinencuentro
​
Enillydd Ffilm Nodwedd Diwylliant y Mynydd Gorau Gŵyl Ffilmiau Banff 2020.
​
(Rhan o Daith Ieithoedd Brodorol)
​
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Dydd Gwener 24eg Mawrth 5.30pm:
Ffilm Fer yn cynnwys: PRIANGAN
​
Canolfan Celfyddydau Taliesin Abertawe, Dydd Mercher 29 Mawrth 6.00pm:
​
​

Gwylio Trelar



