top of page
WOW.png
WOW22.png

 Ffilmiau Byrion y Byd Abertoir

25ain Chwefror - 13eg Mawrth

Childhood Memories

Childhood memories 

Cyfarwyddwr: Vincenzo Aiello – Y Swistir - 2021 - 12:20 

Wrth symud i mewn, mae menyw ifanc yn dod o hyd i degan rhyfedd a fydd yn dod ag atgofion o’i phlentyndod yn ôl iddi.

childhood memories.jpg

25ain Chwefror - 13eg Mawrth

Incarnation

Cyfarwyddwr: Noboru Suzuki

Japan, 2021, 13 munud

Hen wraig ddirgel sy'n honni ei bod hi'n fampir 400 mlwydd oed, a twyllwr sy'n ceisio twyllo arian oddi wrthi. Beth fydd yn digwydd yn y diwedd? Drama ar ffurf ddeialog sy'n digwydd mewn siop goffi y tu allan i'r dref.

incarnation2.jpg

25ain Chwefror - 13eg Mawrth

Brothers Again

Brothers Again 

Cyfarwyddwr: Vanja Tognola

Y Swistir, 2019, 11 munud

Mae Franco, gŵr oedrannus, yn byw ei fywyd mewn tawelwch gyda'i wraig Margherita. Mae dyfodiad ei frawd Vittorio yn torri ar y tawelwch...

brothers again.jpg

25ain Chwefror - 13eg Mawrth

Verdict 30.001: The Cookies

Cyfarwyddwr: Henna Välkky & Samuel Häkkinen

Y Ffindir, 2020, 9 munud

Mae oedolyn cyffredin yn gwneud tua 35 000 o benderfyniadau lled ymwybodol bob dydd. Mae canlyniadau penodol i bob penderfyniad - da a drwg. Hyd yn oed os ydyw jyst ynglŷn â bocs o gwcis.

verdict.jpg

25th February - 13th March

Hopes

Cyfarwyddwr: Raúl Monge

Sbaen 2019, 10 munud

Mae Hopes yn adrodd stori dau unigolyn digartref; merch fach a’i chydymaith sy’n gwisgo hwd. Maen nhw’n crwydro’r strydoedd yn chwilio am fwyd ac yn cardota. Dim ond pan ydynt yn dychwelyd i'r "cartref" y rydym yn darganfod bod eu perthynas yn seiliedig ar ddibyniaeth benodol iawn.

hopes_edited.jpg

25th February - 13th March

Ida

Cyfarwyddwr: Cassiano Prado
Brasil, 2018, 9 munud

Mae Rosa yn fam amheus sy'n gwadu bod mwy i wrthodiad ei merch na phŵl o dymer pur.

ida.jpg

25ain Chwefror - 13eg Mawrth

Reprisal

Cyfarwyddwr: Mike Malajalian

Libanus 2017, 10 munud 

Mae merch ifanc yn dechrau pryderu ynghylch y newyddion am ddychweliad ei gŵr a ddiflannodd 30 mlynedd yn ôl yn ystod y rhyfel cartref.  

reprisal.jpg

25ain Chwefror - 13eg Mawrth

Skickelsen

Cyfarwyddwr: Jonas Gramming

Sweden, 2017, 15 munud

Mae hen ddyn rhyfedd yn symud i mewn i'r fflat gwag drws nesaf i Sara. Sylweddolwn yn fuan mai nid bwriadau da sydd ganddo. Mae rhywun mewn trafferth. Mae rhywbeth gwael yn mynd i ddigwydd. Ond efallai nad yw pethau yn union fel y maen nhw’n ymddangos.

skickelsen.jpg

25th February - 13th March

The Blizzard

Cyfarwyddwr: Alvaro Rodriguez Areny

Andorra, 2018, 12 munud

Yr Ail Rhyfel Byd. Mae Marie yn dihuno wedi ei brifo ac yn ddryslyd yng nghanol storm eira. O'i blaen, mae coedwig ddirgel yn ei gwahanu oddi wrth ei merch.

the blizzard poster.jpg

25th February - 13th March

Centrifugado

Cyfarwyddwr: Mireia Noguera

Sbaen 2017, 11 munud

Mae dyn ifanc yn helpu hen wraig i gario'r golch i'w thŷ. Unwaith y tu mewn, nid yw'r wraig yn fodlon gadael iddo fynd.

centrifugado_c-882910359-large.jpg
  • Instagram
  • YouTube
  • Facebook
  • Twitter
bottom of page