Under Milk Wood In Paint (U)
Cyf: Alex Williams
Gyda llais Richard Burton yn y recordiad gwreiddiol o 1963.
Yn y llafur cariad hwn, daw darluniau llachar Alex Williams â cherdd ryfeddaf Dylan Thomas yn fyw. Animeiddir y paentiadau i gyd-fynd â llais digymar Richard Burton yn darllen Under Milk Wood yn ei ddull unigryw ei hun, gan gyfuno i greu darlun annwyl, lliwgar o Lareggub annwyl. Ac yntau’n baentiwr tirluniau dawnus gyda synnwyr digrifwch sych, mae Alex Williams yn creu fersiwn hudol, gofiadwy o un diwrnod ym mywyd pentref glan-môr bach Cymreig. Ni ddylai’r un ffan o waith Dylan golli hwn, y dangosiad cyntaf erioed yn y DU!
Dangosiad cyntaf y DU
Bydd sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cyfarwyddwr Alex Williams ar ôl y ffilm.
Taliesin, Dydd Mercher 29 Mawrth 8.00pm: