

25ain Chwefror - 13eg Mawrth
I Am Trying To Remember
Cyfarwyddwr: Pegah Ahangarani Premier ar-lein y DU
Iran, Y Weriniaeth Tsiec, 2021, 16 munud, isdeitlau
Yn y ffilm fer atgofus hon, sydd wedi’i chyflwyno’n hyfryd, mae’r cyfarwyddwr Pegan Ahangarani yn ceisio cofio Gholam, a arferai fod yn ffrind annwyl i’r teulu ond a ddiflannodd o’i phlentyndod heb adael ôl. Mae'n gweld ei wyneb wedi'i grafu allan o ffotograffau ac mae ei theulu yn betrusgar i ddweud ei enw. Mae Gholam mwy neu lai wedi’i ddileu ar wahân i'w hatgofion annwyl hi amdano, sy’n pylu bellach. Gyda chyfeiliant sgôr sain hypnotig, mae Pegan yn troi at hen ffotograffau, fideos ac atgofion byw i ddwyn atgof tameidiog i gof o’r chwyldro yn Iran a’r ysbrydion a adawodd ar ei ôl.

25ain Chwefror - 13eg Mawrth
Tapes - Tell Me Everything
Cyfarwyddwr: Smilla Khonsari Premier ar-lein y DU
Denmarc, 2021, 16 munud, isdeitlau
Bu farw mam Smilla pan oedd hi’n ifanc a magwyd hi gan ei thad eithriadol o gariadus. Heddiw, mae Smilla yn ailymweld â’r golled drasig hon trwy hen recordiadau VHS a thapiau – gan ystyried yn ofalus profiadau croes i’w gilydd hi a’i thad o’u colled gyffredin. Tra bod Smilla yn dyheu am ailgysylltu â’r darn colledig hwn ohoni hi ei hun, i’w thad sy’n alarus, mae rhai eiliadau’n dal yn rhy boenus i’w hail-fyw. Ffilm gynnes a theimladwy am berthynas hynod, lle mae hen recordiadau yn sail i gwlwm newydd sydd wedi’i atgyfnerthu.
