Dangosiadau Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Dydd Llun 14eg Mawrth 2.30pm a dydd Mawrth Mawrth 15fed 7pm
The Velvet Queen (12A)
Cyfarwyddwr: Marie Amiguet, Vincent Munier
Gyda: Vincent Munier, Sylvain Tesson
Ffrainc, 2021, 1 awr 32 munud, is-deitlau
Wedi’i gosod mewn tirwedd gwbl unigryw, dyma ffim wirioneddol gofiadwy am ein perthynas gyda’r byd naturiol sy’n cynnig cipolygon sydyn ar olygfeydd heb eu hail. Taith anhygoel, synfyfyriol i un o’r gwarchodfeydd gwyllt olaf go iawn, yn gyfoethog mewn golygfeydd bythgofiadwy ac yn llawn cyfarfodydd gydag antelopiaid, adar, llwynogod, bleiddiaid ac eirth Tibetaidd, ac ar hyd y daith yn chwilio am y llewpard eira prin. Peidiwch â methu’ch cyfle i gael eich cludo i fynyddoedd syfrdanol Tibet yng nghwmni Vincent Munier, un o’r ffotograffwyr bywyd gwyllt gorau yn y byd.
“simply mesmerizing” Slant magazine
“[a] rare nature film about not only beauty and beasts but also the very human urge to make sense of our place in it all.” L A Times
Enillydd Gwobr y Gynulleidfa am Ffilm Ddogfen Orau yng Ngŵyl Ffilm Annibynnol Santa Fe 2021
Gwylio Trelar
Dydd Llun 14eg Mawrth 7pm
The Wall of Shadows (PG)
Cyfarwyddwr: Eliza Kubarska
Gyda: Marcin Tomaszewski, Dawa Tenzin Sherpa, Sergey Nilov, Jomdoe Sherpa
Gwlad Pwyl/Yr Almaen/y Swistir, 2020, 1 awr 34 munud, is-deitlau
Mae baneri gweddi, mynyddoedd diderfyn ac hen chwedl yn gosod y sîn. Wedyn ‘rydym yn cael ein cludo i ffwrdd ar draws mynyddoedd aruthrol yr Himalaia mewn ymdrech i orchfygu copa waharddedig sy’n gartref i’r Duwiau. Mae’r Sherpaid lleol â gwir angen yr arian a ddaw yn sgil yr ymgyrch ond maent hefyd yn ywybodol iawn o dorri tabŵ hir oes, tra bod y dringwyr Ewropeaidd yn benderfynol o gario ymlaen beth bynnag sy’n digwydd. Gyda’i golygfeydd syfrdanol o ‘dop y byd’, bydd y ffilm ddogfen afaelgar hon wrth ddant unrhyw un sy’n caru mynyddoedd, ac mae’n fraint arbennig i gael y cyfle i’w gwylio ar y sgrîn fawr!
“Conjure[s] up a real sense of awe and majesty.” FILMUFORIA
“Spectacularly shot odyssey...“ POV Magazine
Enillydd Gwobr y Ffilm Ddringo Orau yng Ngŵyl Ffilmiau Mynydd Banff 2020
Enillydd y Brif Wobr yng Ngŵyl Ffilmiau Mynydd Ulju 2021
Gwylio Trelar
Dydd Mawrth 15fed Mawrth 2.30 a dydd Mercher Mawrth 16eg 7.45pm
Luzzu (15)
Cyfarwyddwr: Alex Camilleri
Gyda: Jesmark Scicluna, David Scicluna, Michela Farrugia
Malta, 2021, 1 awr 34 munud, is-deitlau
Yn defnyddio actorion nad ydynt yn broffesiynol, yn talu sylw manwl at arferion lleol a gydag agwedd neorealaidd (yn null Ken Loach), mae’r ffilm hon yn cynnig gipolwg ar fywyd Jesmark, pysgotwr Maltaidd go iawn. Yn fyr o arian ac yn ddibynnol yn erbyn ei ewyllys ar deulu ei wraig, mae Jesmark yn benderfynol o ddal ymlaen i’w gwch (Luzzu) a’i ffordd draddodiadol o fyw. Wrth i’r pwysau gynyddu mae’n dechrau ymwneud â chriw o fasnachwyr amheus sy’n gweithredu yn isfyd tywyll y diwydiant pysgota. Yn ddilys, yn bersonol ac yn deimladwy, mae hon yn alarnad ddwys am golled cymuned a thraddodiadau diwylliannol.
“An honest, affecting slab of working-class portraiture, altogether bracing with its thorny labor politics and salty sea air.” Variety
“a story told with skill, beauty, and resonance far beyond the shores of Malta.” TAKE ONE magazine
Enillydd Actor Gorau yn adran Sinema Byd Gŵyl Ffilmiau Sundance 2021
Gwylio Trelar
Dydd Mercher Mawrth 16eg 2.30pm
Aguirre, Wrath of God (PG)
Cyfarwyddwr: Werner Herzog
Gyda: Klaus Kinski, Ruy Guerra, Helena Rojo
Yr Almaen, 1972, 1 awr 35 munud, isdeitlau
Sgriniad arbennig i nodi hannercanmlwyddiant ffilm gyffro epig hynod ddylanwadol Herzog sy’n serennu’r Klaus Kinski unigryw yn ei rôl ddiffiniol fel concwistador gwallgof sy’n chwilio am El Dorado. Yn llawn delweddaeth drawiadol, mae’r daith anhygoel hon i mewn i’r tywyllwch yn ystyried dyfnderoedd seicolegol tywyll diddordeb dyn mewn aur. Yn gamp syfrdanol sy’n rhaid ei gwylio ar y sgrîn fawr, mae perfformiad magnetig eithriadol Kinski yn amlygu ffolineb dyhead dyn i goncro natur, dyhead a ddechreuodd ecsbloetiaeth Ewrop o’r De Byd-eang.
“The whole movie merges landscapes and character with such force that, once seen, you never forget it.” Derek Malcolm Evening Standard
“It looks more magnificent and mad than ever,” Peter Bradshaw Guardian
“The images are breathtaking in their beauty, mystery and sense of scale” Geoff Andrew Time Out
Enillydd y Wobr am Sinematograffi Gorau yn y Gwobrau Ffilm Almaenaidd 1973
Bydd Cyfarwyddwr yr Ŵyl David Gillam yn cyflwyno un o’i hoff ffilmiau a ddechreuodd ei ddiddordeb gydol oes mewn sinema’r byd.
Gwylio Trelar
Dydd Mercher Mawrth 16eg 5.30pm
River (PG)
Cyfarwyddwyr: Jennifer Peedom, Josef Nizetti
Wedi'i adrodd gan Willem Defoe
Ysgrifennwyd gan Robert Macfarlane
Awstralia, 2021, 1 awr 15 munud + 30 munud o sesiwn holi-ac-ateb
Arnofiwch i ffwrdd ar ffrwd o ffotograffiaeth awyrol wych o afonydd, mynyddoedd, anialdiroedd, moroedd a chymylau, gan brofi afonydd ar raddfa ac o bersbectifau na fyddwch wedi eu profi o’r blaen. Yn synfyfyriol, yn fesuredig ac yn herio’r meddwl, mae’r daith hon trwy ofod ac amser yn olrhain perthynas dynolryw gydag afonydd - gwythiennau masnach, cyfnewid diwylliannol a dŵr yfed hanfodol. Ac wedyn yn synfyfyrio ar eu cyflwr enbyd ledled y byd, yn argaeëdig, llygredig, llawn plastig a gwenwynig. Mae’r cyfuniad o ddelweddau, cerddoriaeth a thestun barddol, prin yn creu ffilm sydd ar yr un pryd yn freuddwydiol ac yn rymus.
“Thousands have lived without love, not one without water” - W.H. Auden
Yn dilyn y ffilm ceir sesiwn C&A a recordiwyd gyda Robert Macfarlane a’r gyfarwyddwraig Jennifer Peedom.
Gwylio Trelar