GŴYL FFILM WOW
FFILMIAU
SEW TO SAY
Cyfarwyddwr: Rakel Aguirre
Y Deyrnas Unedig, Sbaen, 2023, 69’, Saesneg
Yn gynnar yn yr 80au, ymunodd Thalia yr artist a gwneuthurwr baneri â gwersyll heddwch Greenham Common ar gyfer menywod yn unig, hafan ffeministaidd sy'n ymhelaethu ar leisiau menywod ers dros ddau ddegawd. Mae hi'n adrodd hanes y brotest ffeministaidd hiraf yn hanes Prydain, gan fyfyrio ar y gweithredu ar y cyd a arweiniodd at ail-lunio bywydau ac ysbrydoli cenedlaethau. I unrhyw un na welodd ‘Women Against the Bomb’ yn WOW 2023 neu’r rheiny sydd eisiau ychydig yn fwy, dyma raglen ddogfen deimladwy arall sy’n datgelu effaith barhaus gwrthsafiad y menywod hyn yn erbyn arfau niwclear yn ystod oes y Rhyfel Oer.
Gwobr Ffilm Nodwedd Ryngwladol Orau yng Ngŵyl Ffilm Ecozine 2023
Gwobr Rhaglen Ddogfen Orau yng Ngŵyl Ffilm Utopia 2023
Ar-lein