
WOW AROUND WALES
Rydyn ni’n mynd â’r ŵyl ar daith! WOW Around Wales yw rhaglen ffilm newydd sbon, drwy’r flwyddyn, sy’n dod â sinema feiddgar a chynnil ei meddwl i gymunedau ar draws y wlad. Gan ddechrau’r hydref hwn, byddwn yn cynnal dangosiadau misol yn ein lleoliadau partner; ffilmiau sy’n sbarduno trafodaethau, yn dathlu lleisiau amrywiol, ac yn cysylltu straeon lleol â rhai byd-eang. Wedi’i wreiddio yn y gymuned, mae pob dangosiad wedi’i gynllunio i fod yn groesawgar, cynhwysol, ac yn gyfle i ddod at ei gilydd.
WOW × Cyngor Ffoaduriaid Cymru: DIGWYDDIADAU AM DDIM (1–14 Mawrth)
Wedi’u cyflwyno mewn cydweithrediad â Chyngor Ffoaduriaid Cymru, ac yn cofio Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae’r digwyddiadau AM DDIM hyn wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer menywod a theuluoedd – ond mae croeso cynnes i bawb.
FLOW (U)
Gints Zilbalodis, Latfia, 2024, 84', dim deialog
Mae cath chwilfrydig yn cychwyn ar daith ar ôl i lifogydd mawr drawsnewid y dirwedd. Ar hyd y ffordd, mae’n cwrdd â nifer o anifeiliaid tra gwahanol, ac gyda’i gilydd maent yn dysgu rhannu gofod, datrys problemau, a gofalu am ei gilydd.
YMa, Pontypridd: Sul 1 Mawrth, 1.30pm
Theatr Volcano: Sadwrn 14 Mawrth, 1pm
SOUFRA (def. 18)
Thomas Morgan, Libanus/UDA, 2017, 72', Arabeg gyda isdeitlau Saesneg
Mae SOUFRA yn ddogfen ysbrydoledig am Mariam, mam ac arweinydd cymunedol, sy’n dod â menywod at ei gilydd drwy gariad a rennir at fwyd. Mae’r hyn sy’n dechrau fel syniad bach yn tyfu’n brosiect cydweithredol bywiog, llawn gwaith tîm, creadigrwydd a phenderfyniad.
Arad Goch, Aberystwyth: Dydd Gwener 7 Mawrth, 6pm

THE VOICE OF HIND RAJAB (15)
Kaouther Ben Hania, Tiwnisia/Ffrainc, 2025, 89 munud, Saesneg, Arabeg gydag isdeitlau Saesneg
29 Ionawr 2024. Mae gwirfoddolwyr y Groes Goch yn derbyn galwad frys. Mae merch 6 oed wedi’i dal yn gaeth mewn car dan dân yn Gaza, yn erfyn am gael ei hachub. Wrth geisio ei chadw ar y llinell, maent yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gael ambiwlans ati. Ei henw oedd Hind Rajab.
Profiad sinematig pwerus a brys sy’n mynd y tu hwnt i ffurf draddodiadol y ddogfen. Wedi’i gyfarwyddo gan y gwneuthurwr ffilm a enwebwyd am Oscar, Kaouther Ben Hania (Four Daughters, Beauty and the Dogs).
Theatr Gwaun, Abergwaun:
Mawrth 10 Chwefror, 7.30yh
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth:
Iau 12 Chwefror, 7.45yh
Pontio, Bangor:
Iau 12 Chwefror, 7.15yh
Hopkinstown Hall/Citrus Arts, Pontypridd: Iau 19 Chwefror, 7yh

ACKROYD AND HARVEY: THE ART OF ACTIVISM (12A)
Fiona Cunningham-Reid, Y Deyrnas Unedig, 2025, 77 munud
Pryd mae ymarfer yn troi’n brotest – neu brotest yn gerdd?
Mae’r ffilm ddogfen agos a gweledol drawiadol hon yn dilyn yr artistiaid clodwiw Heather Ackroyd a Dan Harvey, sy’n uno celf ac ymgyrchu trwy eu gwaith eco-artistig arloesol. O gerfluniau byw wedi’u tyfu o laswellt i gydweithrediadau gyda Extinction Rebellion, mae eu creadigaethau’n defnyddio natur ei hun fel pwnc a chyfrwng. Wrth archwilio eu partneriaeth a sefydlu Culture Declares Emergency, mae’r ffilm yn cipio gweledigaeth feiddgar o gelf fel gweithredu amgylcheddol brys.
Yn herfeiddiol, barddonol ac amserol, mae Ackroyd & Harvey yn gofyn lle y gall celf, gobaith a chariad sefyll mewn byd ar y dibyn.
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth: Dydd Mawrth 2 Rhagfyr, 7.50pm
Pontio, Bangor: Dydd Mawrth 9 Rhagfyr, 7.15pm

LOST FOR WORDS (PG) + HOLI AC ATEB GAN JACKIE MORRIS
Hannah Papacek Harper, Y Deyrnas Unedig/Frainc, 2025, 93munud
Dogfen farddonol sy’n dathlu ein bond â natur, wedi’i hysbrydoli gan The Lost Words. Wrth deithio drwy dymhorau’r DU, mae’n gweu lleisiau plant, henoed, artistiaid a gwyddonwyr. Wrth i dirweddau a geiriau natur ddiflannu, mae’n myfyrio ar yr hyn yr ydym yn ei golli ac yn cynnig gwahoddiad llawn gobaith i ail-ddeffro rhyfeddod ac ailgysylltu.
Ar ôl y dangosiad, cynhelir sesiwn Holi ac Ateb fyw gyda Jackie Morris, artist o Gymru sy’n frwd dros y byd naturiol, ac yn gyd-awdur The Lost Words.
Dydd Mawrth 14 Hydref, 7.30pm
Theatr Gwaun, Abergwaun
_edited.jpg)

