Mae UNITE Community Cymru yn eich gwahodd i ddangosiad arbennig o’r ffilm ddogfen wobrwyedig ‘Gaza’.
Rhyddhawyd y ffilm ingol a nodedig hon, a gyfarwyddwyd gan y gwneuthurwyr ffilmiau Gwyddelig Andrew McConnell a Garry Keane, yn 2019 ac fe’i clodforwyd mewn Gwyliau Ffilmiau ar draws y byd.
Phen: dydd Iau 14 Rhagfyr, 5:30pm Ble: Arad Goch, Stryd y Baddon, Aberystwyth SY23 2NN Pris Mynediad: £5. Bydd yr holl arian yn mynd i’r elusen Cymorth Meddygol i Balestiniaid (MAP).
Gellir archebu tocynnau drwy gysylltu â Theatr Arad Goch drwy e-bost: post@aradgoch.org neu gellir ei gael wrth y drws.
Trefnwyd gan UNITE COMMUNITY CYMRU a chefnogwyd gan CND Cymru, Cangen UNITE Community Cambria, Heddwch ar Waith, Clwb Ffilm Sosialaidd Ceredigion ac eraill
コメント