top of page
banner_clean.jpg
Ffilmiau

Opal (PG)

Cyfarwyddwr: Alain Bidard

Gyda lleisiau: Dawn-Lissa Mystille, Heather Mystille, Alain Bidard

Ffrainc, 2021, 1 awr 25 munud, deialog Saesneg

​

Amser maith yn ôl, mewn teyrnas hud, roedd Opal, tywysoges ifanc sy'n ffynhonnell yr holl hud yn byw. Os yw hi'n hapus, mae'r deyrnas yn ffynnu. Os yw hi'n drist, mae'r deyrnas yn marw. Nid yw popeth yn iawn felly mae'r Iroko mawr, gwarcheidwad y deyrnas, yn mynd ati i ymchwilio. Pa gyfrinach ofnadwy o fewn y teulu brenhinol sy'n achosi'r helynt? Gyda naws Affro-Caribïaidd cyfoethog ac elfennau seicolegol dwys o dan y wyneb, mae’r stori dylwyth teg animeiddiedig hon yn ymdrin â thrawma plentyndod a themâu oedolion (pryder, llosgach, seicdreiddiad) mewn ffyrdd prin, rhyfedd ac optimistaidd. 

​

“Ffantasi animeiddiedig unigryw, hudolus ar gyfer yr hen a’r ifanc fel ei gilydd!” Gŵyl Ffantasia

​

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Dydd Llun 27 Mawrth 5.30pm

ARCHEBWCH NAWR

​

Ar-lein

ARCHEBWCH NAWR

Photo 2 Still_03.jpg

Gwylio Trelar

bottom of page