Nayola (15)
Cyfarwyddwr: José Miguel Ribeiro
Portiwgal/Gwlad Belg/Ffrainc/Yr Iseldiroedd, 2022, 1 awr 28 munud, Portiwgaleg gydag is-deitlau
​
Disgrifiad gweledol unigryw, hynod ddiddorol o sut mae tair cenhedlaeth o fenywod wedi goroesi rhyfel cartref 25 mlynedd ei hyd yn Angola. Ar anterth y rhyfel, mae Nayola yn mynd i chwilio am ei gŵr coll. Degawdau yn ddiweddarach, mae'r wlad o'r diwedd mewn heddwch, ond nid yw Nayola wedi dychwelyd. Ym mhrysurdeb y Luanda sydd ohoni, mae Yara, ei merch wrthryfelgar yn ei harddegau, yn rapiwr tanllyd sydd ond yn dychwelyd i dÅ· ei mam-gu i guddio rhag yr heddlu. Gan ddefnyddio lliw rhithbeiriol byw, ehediadau syfrdanol o ran dychymyg, trac sain gwych a chwedleua nerthol, mae’r ffilm hon yn bleser pur.
​
“bold and thrilling storytelling which combines its forceful message about the legacy of living through war with an almost mythic quality.” Wendy Ide, Screen International
Enillydd Gwobr y Gynulleidfa am y Ffilm Nodwedd Ryngwladol Orau, Gŵyl Ffilm Ryngwladol Sao Paulo
Ffilm Nodwedd Animeiddiedig Orau, Gŵyl Ffilm Ryngwladol Guadalajara
​
Theatr Mwldan Aberteifi, dydd Sul 26 Mawrth 6.30pm:
ARCHEBWCH NAWR
​
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Dydd Mercher 29 Mawrth 7.45pm
Y ffilm fer, THE TORRENTIAL ALODY​, yn sgrinio cyn y ffilm.
ARCHEBWCH NAWR

Gwylio Trelar



