top of page
banner_clean.jpg
Ffilmiau

Finite: The Climate Of Change (12A)

Cyfarwyddwr: Rich Felgate

Y DU, 2022, 1 awr 38 munud

Dyma olwg gan rywun ar y tu fewn ar fyd gweithredu uniongyrchol; cipolwg di-flewyn-ar-dafod, dilys ac emosiynol ar frwydr Dafydd a Goliath rhwng cymunedau ar y rheng flaen, gweithredwyr a chorfforaethau tanwydd ffosil. Yn Swydd Durham yng nghefn gwlad hyfryd Cwm Pont, mae’r gymuned leol wedi bod yn brwydro yn erbyn pwll glo brig newydd ers degawdau. Yn ymuno â nhw mae ymgyrchwyr o goedwig hynafol Hambach yn yr Almaen sydd wedi adeiladu cymuned o dai pen coed i warchod y coed sydd ar ôl. Mae’r adroddiad brys, emosiynol hwn o’r rheng flaen yn dangos yr hyn y gall protestio craff, parhaus ei gyflawni.

 

“If nothing else, [this] makes a persuasive and powerful case against climate crisis fatigue“ Guardian

 

Enillydd y Ffilm Ddogfen Orau sy’n Creu Effaith FIPADOC 2023

Ar-lein
ARCHEBWCH NAWR

Residents blockade gate.jpg

Watch Trailer

bottom of page