Fashion Reimagined (12A)
Cyfarwyddwr: Becky Hutter
Gyda: Chloe Marks, Amy Owney
Y DU, 2022, 1 awr 40 munud
Mae Fashion Reimagined yn ffilm ddogfen bersonol ac addysgiadol sy'n ceisio newid eich canfyddiad o ffasiwn yn ei chyfanrwydd. Yn amrywio o effaith ffasiwn gyflym ar yr amgylchedd i sut mae adwerthwyr mawr yn dod o hyd i'w deunyddiau, mae'r ffilm yn llwyddo i amlinellu datrysiad i bob problem trwy reswm a phersonoliaeth. Gan asio ffeithiau cyflym a dadansoddiad manwl yn ddiymdrech, mae’r ffilm yn addo peidio â gwastraffu eiliad o’r 100 munud o’i hamser rhedeg. Gyda diwydiant sy’n ymddangos yn hudolus yn gefndir iddi, mae’r ffilm yn llwyddo i blethu realiti tywyll trwy lygad clir a manwl.
Enillydd Gŵyl Ffilm Dogfen Wood Hole Orau 2022
Glan yr Afon Casnewydd, dydd Iau 16eg Mawrth 7.00pm
Ymunwch â ni o 4:30pm ar gyfer Gweithdy "Gwneud Hud Gyda Denim" gyda thîm Jean Genies
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Dydd Llun 27 Mawrth 7.45pm
Gwylio Trelar