
GŴYL FFILM WOW
FFILMIAU
All Shall Be Well (12A)
Cyfarwyddwr: Ray Yeung
Hong Kong (R.G.A Tsieina), 2024, 93', Cantoneg gydag isdeitlau Saesneg
Premiere Cymreig
Mae Angie a Pat wedi rhannu bywyd o gariad a gwytnwch yn Hong Kong ers dros bedwar degawd. Pan mae Pat yn marw’n sydyn, caiff byd Angie ei droi wyneb i waered. Yn wyneb pwysau cynyddol gan deulu estynedig heb gydymdeimlad, rhaid iddi lywio ei galar ac ymladd i ddal ei gafael ar y cartref sy'n llawn atgofion annwyl iddi. Gyda pherfformiadau teimladwy gan Patra Au Ga Man, Maggie Li Lin Lin, a Tai Bo, mae All Shall Be Well yn archwiliad tyner, torcalonnus o gariad, colled, a’r cryfder tawel sydd ei angen i hawlio eich lle yn y byd.
Mae'r dangosiad hwn yn cael ei gynnal ar y cyd gan Aberration (digwyddiadau celfyddydol a chymunedol LGBTQ+ yn Aberystwyth). Ar ôl y ffilm bydd cyfle i sgwrsio am y themâu sydd wedi codi. Croeso i bawb.
'Yeung’s film is a beauty in every way, and even finds hope for Angie in the comforting arms of others.' - San Jose Mercury News
'...it’s one of those cinematic pieces that makes you listen carefully and by extension - look closely.' - ScreenAnarchy
🏆 Enillydd Gwobr Teddy - 74ain Gŵyl Ffilm Ryngwladol Berlin
🏆 Enillydd Gwobr Mermaid - 65ain Gŵyl Ffilm Ryngwladol Thessaloniki

