top of page
WOW.png
WOW22.png
Archwiliwch y Rhaglen 20fed
Pen-blwydd

Mae Gŵyl Ffilm WOW yn ôl ac yn dathlu 21 mlynedd o rannu’r ffilmiau gorau oll o sinema’r byd syfrdanol. Mae ein 21ain gŵyl unigryw yn rhedeg ar-lein o ddydd Gwener 25 Chwefror tan ddydd Sul 13 Mawrth.

unnamed-8.png

Byddwn yn ailgydio yn ein partneriaethau gŵyl llwyddiannus gydag Abertoir ac Iris i ail-greu dull gweithredu ‘Gŵyl y Gwyliau’, gan ddangos y ffilmiau mwyaf nodedig o bedwar ban y byd.

 

Bydd ein rhaglen hefyd yn cynnwys llinyn Ecosinema, ffilmiau ysbrydoledig wedi’u cyfarwyddo gan fenywod o gwmpas y byd, a ffilmiau o wledydd fel Bangladesh, Y Weriniaeth Ddominicaidd, a Taiwan nad ydynt yn cael eu gweld mor aml ar ein sgriniau.

 

Credwn fod ‘Bach yn Brydferth’, ac felly gallwn sicrhau bod pob un o’n ffilmiau yn werth eu gwylio. Gallwch ddisgwyl 21 o ffilmiau hyfryd, ysgogol a fydd yn eich cludo ar draws y byd ac yn dangos bod byd arall yn bosibl. Cadwch lygad allan am ein bwndeli o ffilmiau byr sydd wedi’u curadu’n arbennig, trafodaethau panel byw ar-lein a digwyddiadau arbennig sy’n cyfoethogi eich profiad o’r ffilmiau.

 

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod unrhyw un yn gallu mwynhau ein gŵyl hyfryd felly byddwn yn parhau â’n dull ‘Talwch fel y Mynnwch’. Mae hyn yn golygu y bydd nifer cyfyngedig o docynnau ar gael ar gyfer beth bynnag y dewiswch ei dalu. Ac os gallwch chi ei fforddio, cyfrannwch gymaint ag y gallwch chi!

 

Cyhoeddir rhaglen lawn yr ŵyl ar 28 Ionawr, gyda thocynnau blaenoriaeth yn mynd ar werth i danysgrifwyr ein cylchlythyr ar 28 Ionawr, ac yna bydd tocynnau ar werth yn gyffredinol ar 31 Ionawr. Felly sicrhewch eich bod chi'n tanysgrifio i'n cylchlythyr er mwyn sicrhau eich bod yn cael gweld y ffilmiau rydych chi eisiau. Archebwch docynnau'n ddoeth a rhannwch y cariad!

CADWCH MEWN CYSWLLT!

CONTACT US
unnamed-1.png
unnamed-4.png

Bydd pob rhodd a wnewch i Ŵyl Ffilm WOW yn ein helpu i barhau â'n gweledigaeth - gwneud goreuon sinema'r byd yn hygyrch i bawb.

 

DIOLCH!

Cysylltwch â Ni
unnamed-4.png
  • Instagram
  • YouTube
  • Facebook
  • Twitter
unnamed-4.png
Mailing list
unnamed-4.png
    WOW instagram Tagiwch ni #WOWFF2022

    Cefnogir gan

    AC logo.png
    Abertoir-Logo-Transparant-2.png
    Kino 2017 logo white.png
    Riverfront-logo-2017.png
    iris-logo-web.png
    unnamed-4.png

    Noddwyr

    FHW_Brand_GreenGrey.png
    bfifanlogo.png
    CCM.png
    ffilmlogo_white.png
    Lottery funding strip landscape white.pn
    wg_logo_landscape.png
    unnamed-4.png
    bottom of page