top of page
banner_clean.jpg
Ffilmiau

The Salt In Our Waters (15)

Cyfarwyddwr: Rezwan Shahriar Sumit

Gyda: Fazlur Rahman Babu, Titas Zia, Tasnova Tammana

Bangladesh/Ffrainc, 2020, 1 awr 40 munud, Bengali gydag isdeitlau

Pan mae cerflunydd yn mynd i weithio mewn pentref pysgota anghysbell ar Ddelta’r Ganges (pentref sydd bellach wedi diflannu o dan y tonnau), mae’n ei gael ei hun yng nghanol gwrthdaro cyntefig, elfennol rhwng y tir a’r môr, dyn a natur, y gorffennol a’r dyfodol. Wrth i batrymau tywydd cyfnewidiol ac ymchwydd y llanw fygwth eu ffordd o fyw, mae rhai pentrefwyr yn rhoi’r bai arno ef a’i syniadau modern am bryfocio’r newidiadau trychinebus hyn. Wedi'i saethu'n hyfryd gyda pherfformiadau effeithiol, mae’r ffilm hon yn atseinio'n drawiadol ymhell y tu hwnt i'r cwr hwn o'r byd. 

“A timely portrait of the opposing forces which shape our world” Screen Daily

 

Enillydd Gwobr y Ffilm Orau, Gŵyl Ffilm Ryngwladol Kolkata 2020

 

Ecosinema

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Dydd Mercher 29 Mawrth 7.45pm

Y ffilm fer, KATVOMAN, yn sgrinio cyn y ffilm

ARCHEBWCH NAWR

Salt Waters.jpg

Gwylio Trelar

bottom of page