The Invisible Girl (15)
Cyfarwyddwr: Dorian Fernandez Moris
Gyda: Luz Pinedo, Mayella Lloclla, Fernando Bacilio
Periw, 2022, 1 awr 30 munud, Sbaeneg gydag isdeitlau
Mae Alice in the Cities yn cwrdd â Sebastian Salgado yn y ffilm gyffro hynod gyflym hon sydd wedi'i sgriptio'n dynn ac wedi'i saethu'n wych. Ym mlaenddyfroedd yr Amazon yn Periw, mae’r maffia sy’n rheoli’r mwynglawdd aur lleol wedi creu ‘uffern ar y ddaear’ i’r rheiny sy’n chwilio am ddyfodol gwell. Ac yntau’n ddyn sydd wedi’i boenydio, gyda gwn, bag o arian a gorffennol cysgodol, mae Pedro yn gwybod beth yw beth. Felly, mae’n gyndyn o helpu pan mae dwy butain sy’n ffoi rhag cael eu hecsbloetio’n ddi-baid yn curo ar ei ddrws. Mae’r ffilm hon, sy’n llawn tensiwn, yn lliwgar a gyda synnwyr gwych o leoliad, yn dipyn o ddarganfyddiad i WOW.
Premiere y DU
Y ffilm fer, SALT WATER, yn sgrinio cyn y ffilm
Kinokulture, Dydd Mercher 8 Mawrth 7.30pm
Celfyddydau Aberystwyth, nos Iau 30 Mawrth 7.45pm
Ar-lein
Gwylio Trelar