Women Against The Bomb (PG)
Cyf: Sonia Gonzalez
2021 DU 55 mnd
Gyda: Menywod Greenham
Stori ysbrydoledig y gwersyll heddwch cyntaf ar gyfer menywod yn unig yng Nghomin Greenham, wedi’i adrodd gan y menywod oedd yno, eu plant a’u hwyrion. Yn 1981, ar ôl cerdded o Gaerdydd, sefydlodd grŵp bychan o fenywod y gwersyll protest i atal gosod cenhedlaeth newydd o arfau niwclear yn Greenham. Dyma ddarlun cynnes, agos-atoch o’r menywod drws nesaf a newidiodd y byd, mae’r ffilm hon yn amlygu’u creadigrwydd a’u sicrwydd a ddenodd fenywod o bob cwr o’r byd atynt, a nodi toriad gwawr mudiad ecoffeminyddol byd-eang sy’n dal i ysbrydoli gweithredwyr hyd heddiw.
F rated
Kinokulture Croesoswallt, dydd Sul 5ed Mawrth 2.00pm:
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, dydd Sul 26 Mawrth 5.00pm:
Canolfan Celfyddydau Taliesin Abertawe, dydd Mawrth 28 Mawrth 6.00pm: