
GŴYL FFILM WOW
FFILMIAU
The Falling Sky (12A)
Cyfarwyddwr: Eryk Rocha, Gabriela Carneiro da Cunha
Brasil/Yr Eidal, 2024, 110', Yanomam gydag isdeitlau Saesneg
Premiere DU
A hithau’n seiliedig ar eiriau pwerus y siaman a’r arweinydd Yanomami Davi Kopenawa, mae ‘The Falling Sky’ yn portreadu cymuned frodorol Watorikɨ wrth iddi gymryd rhan mewn defod angladd hollbwysig o’r enw Reahu - ymdrech ar y cyd i ddal yr awyr i fyny. Saif y ffilm fel beirniadaeth siamanaidd ffyrnig ar gloddio aur anghyfreithlon, y cymysgedd marwol o epidemigau a gyflwynwyd gan bobl o'r tu allan mae’r Yanomami yn galw’n “xawara”, a’r rheiny mae'r Davi’n galw y “bobl nwyddau.” Gan arddangos harddwch cosmoleg Yanomami a’i hysbrydion xapiri tra hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd daearwleidyddol y bobl hyn, mae The Falling Sky yn ein gwahodd i freuddwydio’n eang.
'One of the most necessary and scorching pieces of nonfiction storytelling in recent memory.'
- Variety
⭐Enwebai Golden Eye - 77ain Gŵyl Ffilm Cannes🏆Cyfarwyddwr Gorau (Dogfennol) - 26ain Gŵyl Ffilm Ryngwladol Rio de Janeiro
-min.png)
