SPOTLIGHT: Sinema Gymunedol Ar Draws De-orllewin Cymru
Mae SPOTLIGHT yn cefnogi twf gweithgaredd ffilm dan arweiniad y gymuned ar draws De-orllewin Cymru, gan weithio gyda lleoliadau a phobl leol i adeiladu profiadau sinema cynaliadwy a chroesawgar lle mae mynediad at ffilm yn gyfyngedig ar hyn o bryd.
Mae pob lleoliad yn dod â'i hunaniaeth, ei gynulleidfa a'i uchelgais ei hun, ac rydym yn cydweithio i greu rhaglenni ffilm sy'n adlewyrchu'r gwahaniaethau hyn: o themâu amgylcheddol a bywyd gwledig i sinema ryngwladol, gwaith yn y Gymraeg a dangosiadau sy'n addas i deuluoedd.
Ein Dull
Mae SPOTLIGHT wedi'i adeiladu o amgylch tair egwyddor graidd:
1) Dan arweiniad y gymuned: datblygir dangosiadau mewn cydweithrediad â phobl leol, gwirfoddolwyr a sefydliadau, gan sicrhau eu bod yn berthnasol, yn groesawgar ac wedi'u gwreiddio yn eu lle.
2) Cynaliadwy: Rydym yn cefnogi lleoliadau i feithrin y sgiliau, yr hyder a'r systemau sydd eu hangen i barhau â gweithgaredd ffilm y tu hwnt i'r prosiect, o raglennu a marchnata i gyflwyno technegol sylfaenol.
3) Hygyrch: Mae digwyddiadau wedi'u cynllunio i fod yn fforddiadwy ac yn gynhwysol, gan ddefnyddio Talu'r Hyn Rydych Chi'n Ei Deimlo neu docynnau cost isel yn aml.
Cefnogir gan Ganolfan Ffilm Cymru fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI (FAN), a wedi wnaed yn bosib gan y Loteri Genedlaethol.
CYFARFOD Â'R LLEOLIADAU
Y Stiwdio
Mae Y Stiwdio yn ofod creadigol cymunedol yng ngogledd Sir Benfro, sy’n cynnig mynediad at weithdai creadigol, celfyddydol a chynaliadwy ers 2022.
Wedi’i leoli mewn strwythur hardd o goedyn crwn yn y pentref Hermon, mae’r adeilad yn defnyddio deunyddiau adeiladu modern a chynaliadwy fel hempcread a chalch, gan arddangos dulliau adeiladu traddodiadol a chreu gofod croesawgar ac ysbrydoledig.
Caiff Y Stiwdio ei redeg gan Cwm Arian, cymdeithas budd cymunedol sy’n seiliedig ar le, gyda’r nod o gefnogi cymunedau lleol a natur i ddod yn fwy gwydn.
Mae Y Stiwdio yn darparu gweithdai a gweithgareddau o ansawdd uchel, gan roi mynediad at sgiliau ac addysg i gymunedau gwledig ac ynysig iawn. Mae gan y tîm nodau penodol o ran meithrin gwydnwch a sgiliau yn ein cymuned leol, ymgysylltu â chymunedau Cymraeg, mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd, a gweithio gyda phobl sy’n byw gydag anfantais.
Sgriniadau sydd ar ddod:
POWER STATION
Dydd Iau 29 Hydref, 6.30pm


