Abercon
Dydd Sadwrn 25 Mawrth, 11AM - 5PM
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Diwrnod llawn hwyl i'r teulu cyfan yn llawn anime, gweithdai creadigol, gemau a stondinau. Bydd unrhyw un sy’n hoff o animeiddio - neu sydd ychydig yn ‘geeky’ yn gyffredinol - wrth eu bodd ag Abercon, ein confensiwn anime hygyrch yng ngorllewin Cymru. Dewch mewn gwisg i gymryd rhan yn y gystadleuaeth cosplay.
11.00AM
Made in West Wales
A yw hyrwyddo hawliau dynol a diogelu'r amgylchedd ar eich rhestr o bethau i'w gwneud? Wel os nad ydynt, fe ddylen nhw fod! Gadewch i’r rhaglen hon o animeiddiadau byr a wnaed gan Glwb Animeiddio Gorllewin Cymru a’r bobl ifanc a gymerodd ran ym mhrosiect Cymru-India Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth eich ysbrydoli.
Tweet Us Equally
Ydych chi'n gwybod beth yw eich hawliau? Mae Grŵp Animeiddio Gorllewin Cymru yn gwybod! Mae haid liwgar o adar yn trafod pwysigrwydd hawliau dynol, hawliau sifil, a hawliau anabledd.
1.00PM
Abercon Plunderphonics (PG)
Mwynhewch berfformiad dyrchafol, rhyngweithiol gan DJ ochr yn ochr â chlipiau o ffilmiau anime poblogaidd ar sgrin y sinema. Mae'r artist Theo Delahaye yn samplu anime poblogaidd a cherddoriaeth fyd-eang i ddathlu harddwch anime. Gwrandewch, gwyliwch, a mwynhewch!
11AM - 5PM stondinau, gemau a gweithdai animeiddio yng nghyntedd y theatr i fyny'r grisiau.
Trefnir gan WOW gyda Chlwb Animeiddio Gorllewin Cymru a Mencap Ceredigion. Ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
2.30PM
Penguin Highway (PG)
Hiroyasu Ishida, Japan, 2018, 117 munud, trosleisio Saesneg
Pam mae pengwiniaid yn goresgyn ei dref, er ei bod hi ymhell o'r môr? Mae Aoyama, 10 oed, yn ceisio datrys y dirgelwch yn yr anime ffuglen wyddonol ddychmygol hon sy'n dathlu llawenydd darganfod.