WOW.png
WOW22.png

FFILMIAU

7fed Mawrth - 13eg Mawrth

Zalava (15)

Cyfarwyddwr: Arsalan Amiri

Gyda: Navid Pourfaraj, Pouria Rahimi Sam, Baset Rezaei

Iran, 2020, 1 awr 33 munud, isdeitlau

A hithau’n llawn naws, mae’r ffilm hon yn cymysgu’n gelfydd llên gwerin Cwrdaidd a chonfensiynau arswyd ysgafn mewn modd effeithiol iawn. Caiff Masoud, swyddog y fyddin amheus, ei anfon i ymchwilio i adroddiadau o feddiant demonig mewn pentref mynyddig anghysbell. Yno mae’n cyhuddo’r pentrefwyr o fod yn ffyliaid ac yn arestio'r bwriwr cythreuliaid am fod yn dwyllwr. Wrth i ofn a dicter y pentrefwyr gynyddu mae Masoud yn sylweddoli ei fod yntau a’r meddyg lleol y mae wedi gwirioni arni, wedi'u hamgylchynu gan bentrefwyr sy'n credu bod y ddau ohonyn nhw wedi’u meddiannu. Gyda chyfarwyddo medrus a pherfformio da, dyma i chi gymysgedd atyniadol o wefrau genre a dychan cymdeithasol dwys.

 

“a confident, cinema-literate feature debut”   Variety

 

“Amiri’s visual sense, along with a surprising streak of dark humor, keeps it humming from first frame to last.”   

rogerebert.com

 

Winner of the Grand Prize Venice International Critics Week at Venice Film Festival 2021

 

Winner of Best First Film & Best Screenplay at Fajr Film Festival 2021

Zalava_09.jpg

Gwylio Trelar

  • Instagram
  • YouTube
  • Facebook
  • Twitter