

FFILMIAU
7fed Mawrth - 13eg Mawrth
Zahori (PG)
Cyfarwyddwr: Mari Alessandrini
Gyda: Lara Tortosa, Santos Curapil, Cirilo Wesley
Yr Ariannin/Chile/Ffrainc/Y Swistir/, 2021, 1 awr 45 munud, isdeitlau
Mae bywyd yn anialwch Patagonia yn galed. Ar gyfeiliorn mewn diwylliant tramor mae Mora, 13 oed, yn benderfynol o ddod yn guacha. A hithau mewn trwbl yn yr ysgol ac yn gorfod gofalu ar ôl brawd iau, mae’n gwylio ei rhieni o’r Swistir yn brwydro i gadw eu breuddwyd o hunangynhaliaeth yn fyw wrth i’r gwyntoedd oer chwythu. Ei hunig ffrind go iawn yw Nazareno, hen Mapuche sydd wedi colli ei geffyl annwyl, Zahorí. Mewn modd celfydd, mae’r ffilm hon yn archwilio meddyliau a theimladau merch llawn ysbryd ar drothwy oedolaeth sy’n benderfynol o lunio ei llwybr ei hun.
“A sensory, animist, shamanic and luminous tale” Le Courier
“A feminist Western where we discover a young girl in apprenticeship, emancipating herself from her condition as a woman.” Mari Alessandrini
Winner Centenary Award for the Best Debut Film International Film Festival of India 2021
UK premier

Gwylio Trelar