
GŴYL FFILM WOW
FFILMIAU
Xibalba Monster (12A)
Cyfarwyddwr: Manuela Irene
Mecsico, 2024, 76', Sbaeneg, Mayan gydag isdeitlau Saesneg
Premiere Cymreig
Beth sy'n digwydd pan fyddwn ni'n marw? Dyma’r cwestiwn sy’n gyrru bachgen ifanc chwilfrydig o Fecsico i ddod yn gyfaill i feudwy enciliol oedrannus iawn gyda gorffennol dirgel, lle mae atebion diddorol i’w canfod. A hithau wedi’i gosod mewn tirwedd ffrwythlon, chwedlonol, archwiliad doniol a hynod deimladwy yw Xibalba Monster o fywyd, marwolaeth, a’r byd naturiol. Gan gynnwys actor arweiniol carismatig nad yw’n gweithio’n broffesiynol, mae’r ffilm yn plethu rhyfeddod, llên gwerin leol, a rhythmau bywyd gwledig yn feistrolgar, gan gynnig portread tyner o gysylltiad dynol a’r dirgelion sy’n llunio pob un ohonom.
'A fascinating fusion of light and darkness' - Screen International
⭐Enwebai Gwobr Sean Connery - 77ain Gŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin

