WOW.png
WOW22.png

FFILMIAU

7fed Mawrth - 13eg Mawrth

When a Farm Goes Aflame (15)

Cyfarwyddwr: Jide Tom Akinleminu

Yr Almaen, 110 munud, isdeitlau

Pan mae’r cyfarwyddwr Danaidd-Nigeraidd Jide Tom Akinleminu eisiau dogfennu bywyd ei dad yn Nigeria - caiff celwydd sylfaenol ei ddarganfod. Mae gan ei dad ail deulu, ac mae wedi ei gadw’n gyfrinach rhag ei wraig yn Nenmarc yn ystod eu priodas hirbell am dros ddeng mlynedd ar hugain. Trwy fideos cartref, llythyrau a chyfweliadau mae Jide yn adrodd stori aml-haenog sy'n ymdrin yn sensitif â chroestyniadau priodas Affricanaidd-Ewropeaidd. Y canlyniad yw portread myfyriol, mosaig o wahanol genedlaethau a diwylliannau lle mae amrywiaeth eang o syniadau am gariad, perthnasoedd a hunaniaeth yn gwrthdaro.

When-a-farm-goes-aflame_still-6_©-Jide-Tom-Akinleminu.jpg

Gwylio Trelar

  • Instagram
  • YouTube
  • Facebook
  • Twitter