top of page
header 2025-04.png

GŴYL  FFILM WOW
FFILMIAU

The Balconettes (18)

Cyfarwyddwr: Noemi Merlant
Ffrainc, 2024, 104', Ffrangeg gydag isdeitlau Saesneg

Premiere Cymreig

Gŵyl Arswyd Abertoir yn Cyflwyno:
Wrth i dywydd poeth ddod â chymdogaeth Marseille i'r berw, o’u balconi, mae tri chyd-letywr yn mwynhau ymyrryd ym mywydau eu cymdogion. Hyd nes i ddiod hwyrnos droi yn garwriaeth waedlyd. Gan ymddangos i ddechrau fel fersiwn ffeministaidd ar Rear Window, mae’r erchyllterau a ddarlunnir yn The Balconettes yn rhai poenus o real, ac o’r rheiny daw’r curiad calon cynddeiriog sydd wrth wraidd y ffilm. A hithau’n ymgorffori trosiadau o ffilmiau arswyd, comedïau gwallgof a sinema gelf, mae The Balconettes yn ffilm gomig, hynod o fyw sy'n gwyro genres. Mae Noemi Merlant (Portrait of a Lady on Fire) yn cyfarwyddo a hefyd yn serennu yn yr herfeiddiad chwyrn hwn o gasineb at wragedd.

“A punk fable shatters #MeToo taboos. Exploring questions of coercion and consent with a healthy dose of blood and guts, The Balconettes entertains and energizes in equal measure.” - Variety

“Ghost story, body horror, feminist comedy. Noémie Merlant, familiar as a fine actress from Céline Sciamma's Portrait of a Lady on Fire, packs a good deal into her sophomore feature as director. Pedro Almodovar looms over all these shenanigans, which could be read as “Women on the Verge of Heat Exhaustion.” - Deadline

⭐ Enwebai Queer Palm - 77ain Gŵyl Ffilm Cannes
 

photo-1-les-femmes-au-balcon-2024-nord-ouest-films-france-2-cine-ma-scaled.jpg
bottom of page