

FFILMIAU
2il Mawrth - 8fed Mawrth
Tailor (PG)
Cyfarwyddwr: Sonia Liza Kenterman Premier ar-lein y DU
Gyda: Dimitris Imellos, Tamila Koulieva, Thanasis Papageorgiou
Groeg/yr Almaen/Gwlad Belg, 2020, 1 awr 40 munud, isdeitlau
Comedi chwerwfelys am ddyn sy'n darganfod ei wir hunan yn hwyr mewn bywyd. Ac yntau bob amser yn fab ufudd, mae Niko sy’n sengl, ac yn swil wedi ymroi ei fywyd i fusnes teilwra traddodiadol ei dad. Ond mae'n rhaid i'r busnes newid er mwyn goroesi, a gyda hynny mae Niko yn blodeuo wrth iddo weld y llawenydd y gall ddod i fywydau pobl. Yn ddathliad o wead, lliw a'r ffabrigau gorau, gyda pherfformiad canolog aruthrol (dychmygwch Jacques Tati yn cwrdd â PRISCILLA QUEEN OF THE DESERT), mae'r stori hon am fuddugoliaeth yn wyneb adfyd yn hollol unigryw.
Thessaloniki International Film Festival, Youth Jury Award & Greek Film Fipresci Prize
Festival Nuovo Cinema Europa Audience Prize
UK online premier

Gwylio Trelar