

FFILMIAU
25ain Chwefror - 3ydd Mawrth
Stop-Zemlia (15)
Cyfarwyddwr: Kateryna Gornostai
Gyda: Maria Fedorchenko, Yana Isaienko, Oleksandr Ivanov, Arsenii Markov
Wcrain, 2020, 2 awr 2 munud, isdeitlau
Stori finiog, sympathetig o hunanddarganfod wedi'i gosod ymhlith grŵp o bobl ifanc yn eu harddegau yn yr Wcrain gyfoes. Wrth aros i raddio, mae’r Masha tawel anghydffurfiol yn treulio amser gyda'i ffrindiau gorau, yn chwarae o gwmpas gyda'i chyd-ddisgyblion, yn cymdeithasu, ac yn syrthio mewn cariad. Mae’r ffilm hon yn mynd i’r afael mewn modd sensitif â bregusrwydd petrusgar bywyd pobl ifanc, y pryder cymdeithasol sydd ynghlwm a helaethrwydd dychrynllyd y dyfodol. Mae’r ffilm yn ddeniadol, yn hynaws ac yn argyhoeddiadol, ac mewn modd celfydd mae’n cynnwys cyfweliadau â'r actorion ifanc gan roi haen arall o ddilysrwydd i'w myfyrdodau ar ofnau, dagrau a thynerwch bywyd pobl yn eu harddegau.
“Contemplative, naturalistic, and compassionate filmmaking . . . a little film festival gem“ One Room With A View
“It’s as universal as it gets. Stop-Zemlia explores the realm of teenagers in the contemporary world with sensitive and intriguing insight.” Flickfeast
Berlin International Film Festival Crystal Bear of the Youth Jury
UK online premier, F-rated, Growing Up

Gwylio Trelar