

FFILMIAU
25ain Chwefror - 3ydd Mawrth
Our Memory Belongs To Us (15)
Cyfarwyddwr: Rami Farah
Cyd-gyfarwyddwr: Signe Byrge Sørensen
Denmarc, Ffrainc, Palesteina, 2021, 90 munud, is-deitlau
Bron i 10 mlynedd ar ôl dechrau’r chwyldro yn Syria, mae tri ymgyrchwr sydd wedi’u halltudio yn aduno ar lwyfan theatr ym Mharis. Mae'r cyfarwyddwr Rami Farah yn dangos y dynion eu ffilmiau protest dirdynnol nhw eu hunain, gan ddwyn i gof atgofion cyfunol o fywyd o dan y gyfundrefn. Trwy ailgynnau gorffennol trawmatig, mae Farah yn cynnig llais i'r dinasyddion a newyddiadurwyr hyn o ran y modd y caiff eu stori ei chyflwyno. Maen nhw’n galaru am eu gwlad ac am y ffrindiau maen nhw wedi’u colli, ac maen nhw’n erfyn ar y byd i fod yn dyst a byth i anghofio beth ddigwyddodd yno... eto iddyn nhw, erys y cwestiwn tragwyddol: Sut ydych chi'n goroesi? Trwy gofio neu drwy anghofio?
“a personal, powerful and thought-provoking interrogation” Wendy Ide, Screen Daily

Gwylio Trelar