WOW.png
WOW22.png

FFILMIAU

25ain Chwefror - 3ydd Mawrth

Listen Before You Sing (U)

Cyfarwyddwr: Chih Lin Yang

Gyda: Umin Boya, Ella Chen

Taiwan, 2021, 113 munud, is-deitlau

Dyma i chi ffilm ddifyr a llawen i'r teulu cyfan sy’n seiliedig ar stori wir. Yn uchel yn y mynyddoedd yng nghanolog yr ynys, mae’r Bunun, pobl frodorol Taiwan yn diogelu eu hunaniaeth, iaith a diwylliant hynafol. Ond mae eu cymuned dan fygythiad pan mae ysgol y pentref yn wynebu cael ei chau. Gan obeithio newid meddwl y llywodraeth, mae athro Addysg Gorfforol sy'n deall dim am gerddoriaeth yn gwirfoddoli fel arweinydd côr a chyn hir mae’r plant yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth genedlaethol. Ond a allant gystadlu yn erbyn plant graenus y ddinas? Neu a yw dod o hyd i'w llais eu hunain yn bwysicach?

UK online premier

Reasons To Be Cheerful Part 2, Family Friendly

listen before you sing.jpg

Gwylio Trelar

  • Instagram
  • YouTube
  • Facebook
  • Twitter