

FFILMIAU
25ain Chwefror - 3ydd Mawrth
King Car (15)
Cyfarwyddwr: Renata Pinheiro
Gyda: Okado do Canal, Jules Elting, Matheus Nachtergaele
Brasil, 2021, 1 awr 37 munud, is-deitlau
Mae’r ffilm ffuglen wyddonol ffynci hon o Frasil, sy’n dwyn i gof TITANE a Cronenberg, yn dod â hiwmor coeglyd i berthynas dyn â’r car. Wedi'i eni yng nghefn tacsi, mae gan Uno gysylltiad arbennig â cheir. Mae’n gallu eu clywed yn ‘siarad’ felly mae’n gwybod eu holl ddymuniadau cyfrinachol. Er ei fod yn caru ei Ewythr sy’n fecanydd, mae e wedi'i ddenu i fywyd ar y tir. Ond pan mae ei hen geir annwyl yn gwrthryfela yn erbyn cael eu gwahardd o ffyrdd y ddinas ac mae’r frwydr rhwng ceir a’r blaned yn gwaethygu mae’n rhaid iddo ddewis ochr.
“unexpectedly funny Brazilian horror comedy” rogerebert.com
“boasts the pleasures of shlock while sacrificing none of its philosophical rigor.” Slant Magazine
“this is a filmmaker with something to say, and has taken a highly creative path in terms of how she has chosen to say it.”
AWFJ Women on Film

Gwylio Trelar