WOW.png
WOW22.png

FFILMIAU

10fed Mawrth - 13eg Mawrth

Karmalink (PG)

Cyfarwyddwr: Jake Watchtel

Gyda: Srey Leak Chhith, Leng Heng Prak, Sahajak Boonthanakit

Cambodia/UDA, 2021, 1 awr 41 munud, isdeitlau

Mae bywydau yn y gorffennol a breuddwydion y dyfodol yn gwrthdaro yn y ffilm ddirgel ffuglen wyddonol ffres, a hynod ddifyr hon sy’n cymysgu Bwdhaeth a Deallusrwydd Artiffisial gyda chryn effaith. Mae Leng, 13 oed, yn mynd ati i geisio rhoi trefn ar ei fywydau yn y gorffennol. Mae’n cael cymorth ei ffrind i'w helpu i ddod o hyd i Fwdha aur a gafodd ei ddwyn ac sy’n ymddangos yn ei freuddwydion. Gyda chyfeillgarwch y plant wrth ei gwraidd emosiynol, mae eu hantur fawr yn gwneud defnydd gwych o leoliadau Phnom Penh wrth symud yn ddidrafferth yn ôl ac ymlaen mewn amser. Taith hynod ddiddorol, sydd wedi’i saernïo’n hyfryd, i ble mae gwyddoniaeth yn croesi drosodd i fetaffiseg.

 

“a magical spiritual mystery tour,”
Variety

 

“An imaginative and original debut”          Screen International

 

Winner Jury Award for Best Feature Santa Fe Independent Film Festival 2021

KARMALINK.jpg

Gwylio Trelar

  • Instagram
  • YouTube
  • Facebook
  • Twitter