top of page
banner_clean.jpg
Digwyddiad Lleisiau Cynhenid

Dydd Mawrth 28ain Mawrth 

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Dewch i ymuno â ni am ddiwrnod llawn dangosiadau ffilm a sgyrsiau â nhw
dathlu'r ieithoedd a diwylliannau brodorol.

Bangladesh Cymru Climate Stories

Straeon Hinsawdd Bangladesh/Cymru

Eleni comisiynodd WOW ddau artist addawol o Gymru sy’n gwneud ffilmiau i fynd ati i wneud ffilm fer ar thema menywod ac addasu hinsawdd.

 

Comisiynwyd gan Ŵyl Ffilmiau WOW, fel rhan o Straeon Hinsawdd Bangladesh-Cymru, partneriaeth â Dhaka DocLab, a ariannwyd gan Grantiau Cydweithio Rhyngwladol y British Council.

Celfyddydau Aberystwyth, Dydd Mawrth 28 Mawrth, 2.30pm

ARCHEBWCH NAWR

Arlein

ARCHEBWCH NAWR

​Ymunwch â ni am sesiwn holi ac ateb gyda'r gwneuthurwyr ffilmiau ar ôl y ffilmiau, a thrafodwch pa rôl y gall sinema ei chwarae wrth ymateb i'r argyfwng hinsawdd.

Adra Ni 2.jpeg

Adra ni, y Môr (U)

Mae Lara wedi adeiladu bywyd iddi hi ei hun a Magi ei merch, gyda’r môr yn ganolog iddo, ac yn ei fyw a’i archwilio yn eu mamiaith, y Gymraeg. Ond wrth i rymoedd allanol eu gwthio yn nes at berygl, mae eu byd yn dechrau chwalu o'u cwmpas.

Mared Rees.jpeg

Cyfarwyddwr: Mared Rees

Amser rhedeg: 10 munud

SHE SELLS SEASHELLS.jpg

She Sells Shellfish (U)

Wedi’i ffilmio mewn super 8 du a gwyn, mae She Sells Shellfish yn glytwaith o fywydau dwy Gymraes a darnau archif am rheiny o’r gorffennol. Archwiliad chwilfrydig o gasglwyr cocos benywaidd De Cymru, a’r gyfrinach ryfeddol sydd gan bysgod cregyn a gwymon mewn perthynas â’n cefnforoedd.

Lily Tiger Tonkin Wells.jpeg

Cyfarwyddwr: Lily Tiger Tonkin Wells

Amser rhedeg: 13 munud

unnamed-4_edited.png

TIR: IAITH: BYWYD

wedi'i guradu gan Tweed, Cyfarwyddwr, Gŵyl yr Ysbryd Brodorol

Yn 2005, sefydlwyd Gŵyl yr Ysbryd Brodorol gan Freddy Trequil, arweinydd y Mapuche er mwyn hyrwyddo gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o ddiwylliannau brodorol. Ymunodd Tweed, Cyfarwyddwr yr Ŵyl yn 2007 gan ddod â deng mlynedd ar hugain o brofiad yn gweithio ym meysydd addysg y celfyddydau, iechyd, treftadaeth ddiwylliannol frodorol a hawliau.

Mae Gŵyl yr Ysbryd Brodorol yn dathlu sofraniaeth storïol gyda rhaglen o naw ffilm fer yn amlygu wyth gwlad frodorol ac ieithoedd brodorol mewn pedair gwlad wahanol: Sami Gogleddol (Y Ffindir), Seri (Mecsico), Ffijïaidd/iTaukei (Fiji); Anishinaabe, Inuktitut, Atikamekw, Eeyou/Crie-Cree, Innu-Aimun (Canada).

Celfyddydau Aberystwyth, Dydd Mawrth 28ain Mawrth, 4.00pm​

ARCHEBWCH NAWR

Arlein

ARCHEBWCH NAWR

Canada_goes_Cymru-logo-transparent.png
ANCIENT DREAMS.jpg

Ancient dreams (Dolos Niegut)

(Northern Saami, Finland, Marja Viitahuhta, 2022, 3’)

 

Cymysgedd o atgofion a delweddaeth ddogfennol am ffyrdd o fyw crwydrol a bugeilio ceirw cyfoes.

Bimaadiziwin.jpg

Bimaadiziwin (The Language)

(Anishinaabe, Canada, Mary-Agnes Shawana, 2018, 4’)

 

Yr iaith Anishinaabemowin a'i phwysigrwydd wrth ddiogelu diwylliant, hanes a hunaniaeth Wiikwemkoong

Iskwew-Ishkueu.png

Iskwew-Ishkueu

(Atikamekw, Canada, Maïlys Flamand, 2021, 3’)

 

Mae menyw ifanc yn sôn am ei thaith a’i harweiniodd o’i chymuned enedigol i’r ddinas ac i fyfyrio ar y pwnc o berthyn i fwy nag un lle.

The Future Innu.jpg

The Future Innu

(Innu-Aimun, Canada, Stéphane Nepton, 2021, 6’)

 

Awdl i'r tir mewn perthynas â hunaniaeth ddeuol y gwneuthurwr ffilmiau fel unigolyn Brodorol trefol.

Flames.jpg

Flames (Dolat)

(Northern Saami, Finland, Marja Viitahuhta, 2021, 5’)

 

Tân sydd wrth wraidd diwylliant dynol, fel arf, ond hefyd fel lle ar gyfer cynulliadau cymdeithasol ac adrodd straeon.

The Creation of The World.jpg

The Creation of The World (Hant Quij Cöiipaxi Hac)

(Seri, Mexico, Antonio Coello, 2019, 10’)

 

Myth y creu wedi’i addasu’n ffilm fer animeiddiedig a wnaed gan blant a Hynafiaid Brodorol y Seri.

Names for Snow.jpg

Names for Snow (Katatjatuuk)

(Inuktitut, Canada, Rebecca Thomassie, 2018, 6’)

 

Mae menyw Inuk o amgylch Kangirsuk yn dysgu'r 52 gair Inuktitut am eira.

Northern Comfort, A Drive Around Town.jpg

Northern Comfort: A Drive Around Town

(Eeyou (Crie-Cree), Canada, Mélanie Lameboy, 8’)

 

Mae tras ddwy hil a thairieithrwydd yn cyflwyno ambell gwestiwn penodol ar y ddeinameg gymdeithasol rhwng Crees a phobl anfrodorol.

Soli Bula.jpg

Soli Bula

(Fijian/iTaukei, Fiji, Meli Tuqota Jr, 2021, 7’)

Mewn Fiji realiti amgen, mae Drua (llong) newydd ar fin cael ei hwylio.

unnamed-4_edited.png
Land Language Life
bottom of page