Print this page
Rate this item
(0 votes)
Llun, Ion 16th, 2017 Written by 

Shadow World (15 TBC)

  • Cyfarwyddwr: Johan Grimonprez
  • Cast: Andrew Feinstein, David Leigh, Helen Garlick
  • Gwlad: USA
  • Blwyddyn: 2016
  • Amser rhedeg: 90'

Ystyriaeth graff, drawiadol ar y fasnach arfau byd-eang, y symiau enfawr o arian a wneir a’r llygredd mae hynny’n ei greu.

Mae cyfweliadau hynod ddiddorol yn amlygu realiti ysgytiol rôl ganolog Prydain yn y fasnach fudr hon sy’n cyfrif yr elw mewn miliynau a’r colledion mewn bywydau dynol. Yn seiliedig ar lyfr clodfawr Andrew Feinstein, mae’r ffilm yn llwyddo’n dda i gyflwyno’n glir ac yna i ddangos y canlyniadau. Wedi ei golygu’n gelfydd a’i darlunio’n effeithiol gyda chlipiau perthnasol, mae’n gwau aml-geinciau ei stori fyd-eang yn fedrus er mwyn creu achos nerthol yn erbyn y partïon euog. Y gobaith yw, os deallwn yn well yr hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd, y gallwn weld trwy’r arswyd a chreu dyfodol gwell.

“ . . . superb, gut-punching exploration of the global arms trade is the sort of catalyst to energize politically-minded viewers.” Variety

Enillydd Gwobr y Ffilm Ddogfen Orau yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin

Tymor Lleisiau Gwrthsafiad

Trailer

Read 26113 times Last modified on Mer, Ebr 26th, 2017
Rhowan Alleyne

Rhowan is WOW's marketing officer.  As a Japanese language graduate (SOAS), unsurprisingly she is a massive fan of Kore-eda Hirokazu, Beat Takeshi and all things Ghibli. 

FaLang translation system by Faboba