Print this page
Rate this item
(0 votes)
Llun, Ion 16th, 2017 Written by 

Neruda (15 TBC)

  • Cyfarwyddwr: Pablo Larraín
  • Cast: Luis Gnecco, Gael García Bernal, Mercedes Morán
  • Gwlad: Chile/Argentina/France/Spain
  • Blwyddyn: 2016
  • Amser rhedeg: 108'

Mae Larraín (Jackie, No) yn asio hanes, chwedl a ffuglen yn effeithiol yn y ffilm gyffro a’r ‘gwrth-fywgraffiad’ ditectif eofn, a hynod ddyfeisgar hon.

Mae’n ymchwiliad diddorol tu hwnt o sut yr ydym yn creu stori am ein bywydau ni ein hunain - yn enwedig os ydych yn ymffrostgar a choegfalch fel y bardd mawreddog a’r enillydd Gwobr Nobel, Pablo Neruda. Yn Chile, ar ddiwedd y 1940au mae Neruda yn ffoi rhag llymder y llywodraeth. Mae Peluchonneau, y ditectif penderfynol sy’n ei ganlyn a Neruda yn ddau begwn mewn naratif sy’n ymblethu, y ddau yn benderfynol o greu eu mythau eu hun, un fel y ditectif arweiniol craff, y llall fel bardd rhamantaidd mawreddog ac arwr y bobl. Wedi ei chreu mewn modd celfydd gyda pherfformiad cynnil gwych gan Bernal a sgript, sionc, sylwgar, mae’r ffilm hon yn dipyn o hwyl.

 

A playfully unexpected spin on a historical drama.” Wendy Ide, Sight & Sound

a dizzying cinematic adventure filmed with playful virtuosity.” London Film Festival

Tymor Lleisiau Gwrthsafiad


Trailer

Read 19533 times Last modified on Mer, Ebr 26th, 2017
Rhowan Alleyne

Rhowan is WOW's marketing officer.  As a Japanese language graduate (SOAS), unsurprisingly she is a massive fan of Kore-eda Hirokazu, Beat Takeshi and all things Ghibli. 

FaLang translation system by Faboba