top of page
WOW.png
WOW22.png

Y Gorau o Iris 2021 a Straeon Traws Gwobr Iris

25ain Chwefror - 13eg Mawrth

Baba (12A)

Cyfarwyddwyd Gan Sam Arbor Ac Adam Ali

Du, 2021, 18 Munud

Mae Britannia, crwt cwiar o Libya, sy’n byw yn y twneli o dan Tripoli yn breuddwydio am ddianc i fywyd gwell, ond mae darganfyddiad annisgwyl yn ei orfodi i gwestiynu a ddylai aros neu ffoi o'i famwlad a'i ffrindiau.

baba - sam arbor, adam ali.jpg

25ain Chwefror - 13eg Mawrth

We Will Become Better – Sansara (PG)

Cyfarwyddwr: Andzej Gavriss

Rwsia, 2021, 6 Munud

Gwnaeth Sansara y band indi o Rwsia y fideo cerddoriaeth hwn fel teyrnged i gymuned LHDT+ Rwsia, 12 mis ar ôl i’r wlad basio deddfwriaeth sy’n diffinio priodas fel undeb dyn a menyw yn unig. Mae’n gyfuniad hyfryd o gerddoriaeth a symudiad ac yn stori rymus am gariad sy’n cael ei rhwystro, ac er na allwn gymryd unrhyw glod am hyn, mae wedi cael ei wylio dros filiwn o weithiau ar YouTube ers cael ei gyflwyno ar gyfer Gwobr Iris!

we will become better - andzej gavriss.png

25ain Chwefror - 13eg Mawrth

Cwch Deilen (U)

Cyfarwyddwr: Efa Blosse-Mason

Cymru, 2021, 8 Munud

Stori serch animeiddiedig am ddeilen sy'n troi'n gwch, ac ofnau sy'n dod allan o'r dyfroedd tywyll fel bwystfilod môr a stormydd. A fydd y Cwch Dail yn goroesi'r tonnau cythryblus?

Cwch Deilen IRIS SHORTS COVER_edited.jpg

25ain Chwefror - 13eg Mawrth

S.A.M. (15)

Cyfarwyddwyr: Lloyd Eyre-Morgan A Neil David Ely

Y Deyrnas Unedig, 2021, 16 Munud

Mae dau ddyn ifanc yn ffurfio cyfeillgarwch ar y siglenni yn eu parc lleol.

sam - lloyd eyre-morgan and neil david ely.jpg

25ain Chwefror - 13eg Mawrth

God's Daughter Dances (12A)

Cyfarwyddwr: Sungbin Byun

De Corea, 2021, 24 Munud

Mae Shin-mi, dawnswraig drawsryweddol, yn derbyn galwad ffôn gan Weinyddiaeth y Gweithlu Milwrol, i fynychu'r Arholiad Gwasanaeth Milwrol. Mae Shin-mi, gyda phopeth wedi’i baratoi, yn cychwyn allan i’r Weinyddiaeth y Gweithlu Milwrol.

god's daughter dances - sungbin byun_edited.jpg

25ain Chwefror - 13eg Mawrth

Pop (15)

Cyfarwyddwr: Margo Roe

Lloegr (Du), 2021, 21 Munud

Mae Jack yn fachgen ifanc sy'n archwilio ei hunaniaeth ei hun pan mae'n gwneud ffrindiau gyda Pop, cyn-droseddwr a ryddhawyd yn ddiweddar. Mae'r pâr yn ffurfio cyfeillgarwch, ond mae gorffennol Pop a'i anallu i reoli ei emosiynau yn bygwth diogelwch Jac.

pop- margo roe_edited.jpg

25ain Chwefror - 13eg Mawrth

BIRTHDAY BOY (15)

Cyfarwyddwr: Leo Lebeau

Y Deyrnas Unedig, 2021, 20 Munud

Mae Birthday Boy yn dilyn bachgen trawsrywiol, Alex, wrth iddo brofi bwlio mewn ysgol breifat i ferched. Mae'n byw bywyd dwbl mewn gemau ar-lein, lle mae'n teimlo y gall fynegi ei wir hunaniaeth. Mae Alex wedi mynd ati’n gyffrous i gynllunio parti pen-blwydd digidol, fodd bynnag, ar ddiwrnod ei ben-blwydd, mae'r bwlio’n cymryd tro treisgar. Cawn brofi’r digwyddiadau trasig hyn trwy ei atgofion, wrth iddo fyfyrio o’i wely yn ysbyty.

Er gwaethaf  y pethau sy’n achosi caledi iddo, yn y pen draw mae hon yn ffilm sy’n ymwneud â derbyn, gyda naratif dyrchafol sy'n portreadu cymeriad traws mewn modd cadarnhaol.

birthday boy - leo labeau.jpg
  • Instagram
  • YouTube
  • Facebook
  • Twitter
bottom of page