

FFILMIAU
7fed - 13ddeg o Fawrth
Bangla Surf Girls (12A)
Cyfarwyddwr: Elizabeth D. Costa
Bangladesh, 2021, 85 munud, Bengali gydag Isdeitlau Saesneg
Stori ysbrydoledig o galon Cox’s Bazar ym Mangladesh. Gwelwn drawsnewidiad grŵp o ferched yn eu harddegau sy'n ymuno â chlwb syrffio lleol ac sy'n meiddio breuddwydio'n fawr. Mae ffilm ddogfen Elizabeth D. Costa yn cipio’r emosiynau amrwd, dynameg y teulu yn ogystal â phwysau cymhleth tlodi ar arfordir sydd ar flaen y gad o ran pwysau newid yn yr hinsawdd. Gan gydbwyso rhyddid y tonnau â realiti cyfyngol eu bywydau beunyddiol, cawn brofi gwefr a brwydr dod i oed mewn gwlad sy’n datblygu. Nid eich ffilm syrffio arferol.
Winner Accolade Award HotDocs 2021
UK online ‘sneak preview’
Made in Bangladesh, Reasons To Be Cheerful Part 2, F rated, Family Friendly, Growing Up, Strong Women
PWYSIG
Mae'r ffilm hon wedi'i geo-gyfyngu i wylwyr yng Nghymru. Hyd yn oed os yw'ch cyfeiriad yng Nghymru, efallai y bydd eich darparwr gwasanaeth rhyngrwyd wedi'i leoli yn rhywle arall. Os ydych chi'n cael trafferth cael mynediad i Bangla Surf Girls o Gymru, cysylltwch â info@wowfilmfestival.com gan y gallwn ni helpu. Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd.


Supported by

Gwylio Trelar