
GŴYL FFILM WOW
FFILMIAU
A Night With The Rolling Stones (18)
Cyfarwyddwr: Patricia Ramos
Cuba, 2023, 92', Sbaeneg gydag isdeitlau Saesneg
Mawrth 2016: Mae Havana yn paratoi ar gyfer croesawu The Rolling Stones ar gyfer cyngerdd awyr agored rhad ac am ddim, y cyntaf gan grŵp roc ers cwymp Batista. Mae Rita yn rhan o'r hyn a elwir yn “oroeswyr”; y rheiny dros ddeugain a arhosodd ar ôl tra bod eraill wedi gadael yr ynys i chwilio am fywyd gwell. Mae ei mab eisiau symud i mewn gyda’i dad yn yr Iseldiroedd, mae ei mam yn mynnu ei bod yn marw ac, i wneud pethau’n waeth, mae’n cael perthynas gyda gŵr priod. Ac yna, pan mae’r cyngerdd ar fin dechrau, mae hi'n digwydd cwrdd â chyn-gariad iddi. Ai dyma ddechrau rhywbeth newydd i Rita?
Bydd y ffilm yn cael ei chyflwyno gan Guy Baron, Uwch Ddarlithydd mewn Sbaeneg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Dangosiad a noddir gan Screen Cuba.
🏆Havana Star ar gyfer yr Actores Orau - Gŵyl Ffilm Havana 2024 Efrog Newydd
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth:
Mer 02/04, 5.30pm

